David Cameron
Fe fydd Prif Weinidog Prydain yn dweud wrth bawb fod rhaid clirio dyledion – o ran biliau a chardiau credyd.

Ac fe fydd yn cydnabod bod yr argyfwng ariannol yn fwy na’r disgwyl a bod peth amser eto cyn y bydd pethau’n gwella.

Er hynny, yn ei brif araith i gynhadledd y Ceidwadwyr, fe fydd David Cameron yn mynnu fod rhaid cadw at gynlluniau torri’r Llywodraeth, heb fenthyg i ostwng trethi neu gynyddu gwario.

Gormod o fenthyg

Ei ddadl yw bod y dirwasgiad yn un anarferol, wedi ei achosi gan fenthyca gormod, ar ran unigiolion, busnesau, banciau a llywodraethau.

Fe fydd yn galw am “optimistiaeth” a chred mewn “gallu-gwneud” er mwyn dod trwy’r problemau.

Mae rhai dyfyniadau o’r araith eisoes wedi’u gollwng i’r wasg:

Dyfyniadau o’r araith

“Rwy’n gwybod na allwch ei weld na’i deimlo eto, ond meddyliwch am y peth fel hyn: Mae’r economi newydd yr ydyn ni’n ei adeiladu fel adeiladu tŷ. Allwch chi ddim gweld y rhan pwysicaf – y seiliau sy’n ei sefydlogi.

“Yn araf ond yn sicr, rydyn ni’n gosod y seiliau ar gyfer gwell dyfodol. Ond dyma’r pwynt allweddol: Dim ond os byddwn ni’n dal ati y bydd yn gweithio.

“Yr unig ffordd allan o argyfwng dyledion yw delio gyda’ch dyledion. Mae hynny’n golygu fod angen i deuluoedd – pawb ohonon ni – dalu’r biliau cardiau credyd a chardiau siopa. Mae’n golygu fod rhaid i fanciau roi trefn ar eu llyfrau.

“Ac mae’n golygu fod rhaid i lywodraethau ar draws y byd dorri eu gwario a thorri’r got yn ôl y brethy. Mae’r Llywodraeth glymblaid hon, Ceidwadwyr a Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg a fi – rydyn ni wedi arwain y ffordd yma ym Mhrydain.”