Bydd cwmni ceir Honda yn cael ei annog mewn protest heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 30) i wyrdroi ei benderfyniad i gau ffatri yn Swindon.

Bydd gweithwyr y ffatri yn ymuno ag arweinwyr cymunedol a gwleidyddion yn sgil y cyhoeddiad gan y cwmni o Siapan y byddan nhw’n cau’r safle yn 2021.

Mae’r brotest wedi cael ei threfnu gan yr undeb Unite, sy’n dweud y gall miloedd o swyddi – ar ben y 3,500 sydd yn y ffatri yn Swindon – gael eu colli.

Mae gweithwyr ledled gwledydd Prydain, gan gynnwys Cymru, yn ddibynnol ar gontractau gan Honda.

Yn ôl Steve Turner, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol Unite, maen nhw’n “benderfynol o frwydro” er mwyn cadw presenoldeb Honda yn Swindon.

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad heddiw mae , Len McCluskey, Ysgrifennydd Cyffredinol Unite; Rebecca Long-Bailey, yr Ysgrifennydd Busnes Cysgodol, a rhai o weithwyr y ffatri.