Mae elusen yn galw ar siopau i roi’r gorau i werthu wyau Pasg mor fuan er mwyn ceisio taclo problem gordewdra.

Gyda thair wythnos i fynd, mae hanner pobol gwledydd Prydain wedi prynu a bwyta o leiaf un wy Pasg bach ac mae bron i chwarter, 23%, wedi cael un maint llawn, yn ôl Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd (RSPH).

Yn ôl 77% o’r rhai o holwyd, mae archfarchnadoedd yn gwerthu melysion y Pasg yn rhy fuan, ac mae 57% o rieni yn dweud bod eu plant wedi cael eu temtio gan ddanteithion Pasg mewn siopau.

Dywed 68% hefyd eu bod o’r farn fod siopau yn defnyddio gwyliau a digwyddiadau arbennig yn rhy aml er mwyn hysbysebu a gwerthu bwyd melys, gyda 38% yn honni bod eu diet yn llai iachus na’r arfer pan mae hyn yn digwydd.

Mae 27% o bobol Prydain yn ordew, sef y gyfradd uchaf yng Ngorllewin Ewrop.

Mae dros 20% o ddisgyblion blwyddyn 6 hefyd yn ordew ac mae hyd at 4.2% yn “ddifrifol o ordew.”

Yn ôl y RSPH, mae wy Pasg ar gyfartaledd yn cynnwys bron i dri chwarter y nifer o galorïau dyddiol sydd yn cael ei argymell i oedolyn.