Mae dyn o wledydd Prydain wedi marw o ganlyniad i ddamwain sgïo yn Andorra.

Yn ôl datganiad gan barc sgïo Grandvalira, roedd y dyn, 59, wedi colli rheolaeth a tharo coeden tra oedd yn eira fyrddio.

Maen nhw’n dweud iddo dreulio cyfnod ar ben ei hun wedi’r digwyddiad, ac wedi dioddef o ataliad y galon cyn i achubwyr ddod i geisio ei achub.

Fe ddigwyddodd ar lethr Avet, sef ardal ar gyfer sgïwyr profiadol.

Yn ôl llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor, maen nhw mewn cysylltiad â’r awdurdodau lleol.