Mae Theresa May wedi dweud nad yw hi wedi gallu sicrhau digon o gefnogaeth i’w chynllun Brexit “hyd yn hyn”, sy’n golygu na fydd modd cynnal trydedd bleidlais.

Mae cynllun Brexit y Prif Weinidog wedi cael ei wrthod ddwywaith gan Aelodau Seneddol yn ystod y misoedd diwethaf, ac roedd hi’n disgwyl cynnal pleidlais arall yr wythnos hon ar ôl i’r Undeb Ewropeaidd ganiatáu gohirio Brexit tan Ebrill 12.

Roedd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, hefyd wedi dweud na fydd pleidlais am y trydydd tro yn cael ei chynnal oni bai bod “newidiadau sylweddol” yn cael eu cyflwyno i’r cytundeb.

“A chalon drom, dw i wedi dod i’r casgliad nad oes yna ddigon o gefnogaeth yn y Tŷ i ddod â’r cytundeb yn ôl am bleidlais arall hyd yn hyn,” meddai.

“Rydw i’n parhau i gynnal trafodaethau gyda chydweithwyr ledled y tŷ fel bod modd inni gynnal pleidlais yr wythnos hon a sicrhau Brexit.”

“Embaras cenedlaethol”

Mewn ymateb, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, fod agwedd y Llywodraeth ar Brexit yn “embaras cenedlaethol”.

“Ar ôl dwy flynedd o fethiannau ac addewidion wedi eu torri, mae’r Prif Weinidog o’r diwedd wedi derbyn yr anochel yr wythnos ddiwethaf ac ymestyn Erthygl 50, cyn mynd i Frwsel i drafod ymhellach,” meddai.

“Roedd cynhadledd yr wythnos ddiwethaf yn fethiant arall gan y Prif Weinidog wrth y bwrdd trafod – cafodd ei chynigion eu gwrthod a chafodd canllawiau newydd eu gorfodi arni.”