Mae disgwyl i Dŷ’r Cyffredin bleidleisio ar gyfres o welliannau heno (nos Lun, Mawrth 25) sy’n amlinellu’r ffordd ymlaen yn y broses Brexit.

Man cychwyn y gyfres o welliannau sydd wedi cael eu cyflwyno gan Aelodau Seneddol yw cynnig gan Theresa May sy’n nodi bod Aelodau Seneddol wedi ystyried y datganiad ysgrifenedig y gwnaeth hi ei gyflwyno wedi iddi golli’r ail bleidlais ar ei chynllun Brexit.

Yn allweddol, mae’r cynnig yn agored i welliannau, sy’n golygu bod gan Aelodau Seneddol gyfle i gyflwyno cynlluniau amgen ynghylch y camau a ddylid cael eu cymryd yn y broses Brexit.

Y gwelliannau posib

Does dim disgwyl i Lefarydd y Tŷ, John Bercow, gyflwyno pob un o’r gwelliannau ar gyfer pleidlais, ac mae’n bosib y bydd rhai sydd wedi gwneud cynnig yn tynnu eu gwelliannau yn ôl.

Mae’r gwelliannau yn cynnwys:

  • Gwelliant gan Jeremy Corbyn yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau amser ar gyfer dadleuon ar gynlluniau Brexit eraill, sy’n cynnwys cynllun Llafur ac ail refferendwm Brexit;
  • Gwelliant gan Tom Brake o’r Democratiaid Rhyddfrydol sy’n galw ar Lywodraeth Prydain i ymestyn Erthygl 50 ymhellach fel bod modd cynnal ail refferendwm;
  • Gwelliant Syr Oliver Letwin, Dominic Grieve a Hilary Benn sy’n cynnig cynnal cyfres o bleidleisiau ar y ffordd ymlaen yn y broses Brexit;
  • Gwelliant Will Quince sy’n galw am barchu canlyniad y refferendwm Brexit yn 2016;
  • Gwelliant gan Yvette Cooper sy’n gorchymyn y Llywodraeth i atal sefyllfa dim cytundeb os nad yw cytundeb Theresa May yn cael ei gymeradwyo;
  • Gwelliant Anna Soubry sy’n galw am ail refferendwm lle bydd pleidleiswyr yn cael dewis rhwng gwahanol fersiynau o Brexit neu ddim Brexit o gwbwl.
  • Gwelliant gan Margaret Beckett sy’n rhoi’r cyfle i’r Senedd benderfynu a ddylai’r Llywodraeth naill ai ymestyn Erthygl 50 neu barhau i adael yr Undeb Ewropeaidd os nad oes cytundeb.