Mae Brexit heb gytundeb ym mis Ebrill yn dod yn “fwyfwy tebygol”, meddai’r Comisiwn Ewropeaidd.

Daw’r rhybudd wrth i Theresa May gynnal cyfarfod arbennig â’i Chabinet ar drothwy wythnos dyngedfennol i’w chynlluniau Brexit.

Mae’r Prif Weinidog hefyd yn wynebu brwydr galed am ei swydd, wrth i rai o Geidwadwyr y meinciau cefn geisio ei disodli o Rif 10.

Mewn datganiad, dywed y Comisiwn Ewropeaidd eu bod nhw wedi cwblhau eu paratoadau ar gyfer Brexit dim cytundeb, ond maen nhw’n rhybuddio ar yr un pryd y byddai’n “ymyrryd yn sylweddol” ar ddinasyddion a busnesau.

Os bydd gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Ebrill 12 heb gytundeb, ni fyddan nhw’n gallu manteisio ar gyfnod pontio, meddai swyddogion, sy’n golygu y bydd tollau yn cael eu gweithredu ar nwyddau yn syth.

Maen nhw hefyd yn darogan “oedi sylweddol” wrth y ffin, wrth i nwyddau orfod cael eu gwirio.

Pleidlais arall

Bydd pleidlais yn cael ei chynnal yn Nhŷ’r Cyffredin heno (nos Lun, Mawrth 25) ar welliant a fyddai’n gorfodi cyfres o bleidleisiau ar gynlluniau eraill sy’n wahanol i gynllun ymadael Theresa May.

Y cyn-weinidogion, Syr Oliver Letwin a Dominic Grieve, ynghyd â’r Aelod Seneddol Llafur, Hilary Benn, sydd wedi cyflwyno’r gwelliant.

Fe fyddai colli’r bleidlais yn ergyd arall i Theresa May, gan fydd y gwelliant yn arwain at gyfres o bleidleisiau yn y Senedd a fydd, i bob pwrpas, yn cipio rheolaeth o’r broses Brexit oddi ar y Llywodraeth.

Ond mae’r Ysgrifennydd Brexit, Steve Barclay, wedi rhybuddio bod yna fwy o risg o etholiad cyffredinol os yw Aelodau Seneddol yn llwyddo i wneud hynny.