Mae cefnogwr Brexit wnaeth daro arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, gydag wy wedi cyfaddef o ymosod arno.

Fe darodd John Murphy, 31, Jeremy Corbyn tra’n gweiddi arno i “barchu’r bleidlais” tra roedd o’n ymweld â Mosg yn ei etholaeth yn Islington North, Llundain, ar Fawrth 3.

Pan ymddangosodd yn Llys Ynadon Westminster, dywedodd John Murphy, o Barnet, Llundain, ei fod wedi ymosod arno wrth ei daro gyda’r wy.

Ni chafodd Jeremy Corbyn ei anafu yn ystod y digwyddiad yn y Muslim Welfare House yn Finsbury Park.