Mae Theresa May yn brwydro i aros yn ei swydd wrth i Aelodau Seneddol geisio cymryd rheolaeth o’r broses Brexit oddi ar y Llywodraeth.

Mae disgwyl i Dy’r Cyffredin bleidleisio eto heno (nos Lun, Mawrth 25) ar welliant a fyddai’n gorfodi cyfres o bleidleisiau ar gynlluniau eraill ar wahân i Gytundeb Ymadael y Prif Weinidog.

Mae’r gwelliant wedi cael ei gyflwyno gan y cyn-weinidogion Syr Oliver Letwin a Dominic Grieve a’r Aelod Seneddol Llafur Hilary Benn

Fe fyddai colli’r bleidlais eto yn ergyd arall i Theresa May, sy’n cynnal cyfarfod o’i Chabinet bore ma.

Bwriad y gwelliant yw arwain at gyfres o bleidleisiau yn y Senedd ddydd Mercher a fyddai, i bob pwrpas, yn cipio rheolaeth o’r broses Brexit oddi ar y Llywodraeth.

Mae’r Ysgrifennydd Brexit Steve Barclay wedi rhybuddio bod yna fwy o risg o etholiad cyffredinol os yw Aelodau Seneddol yn llwyddo i wneud hynny.

Ond mae’r Canghellor Philip Hammond wedi dweud y bydd Aelodau Seneddol yn cael y cyfle’r wythnos hon “un ffordd neu’r llall” i benderfynu ar y mater er nad oedd wedi cadarnhau a fyddai’r Ceidwadwyr yn cael pleidlais rydd ar yr opsiynau.

“Cynllwyn”

Dros y penwythnos fe fu adroddiadau bod gweinidogion y Cabinet yn “cynllwynio” i ddisodli Theresa May. Fe fu hi’n cynnal trafodaethau hir gyda Brexitwyr blaenllaw ddydd Sul gan gynnwys Boris Johnson, Jacob Rees-Mogg a David Davis yn Chequers i drafod a oes digon o gefnogaeth ymhlith Aelodau Seneddol i’w chynllun Brexit.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Nigel Evans, sy’n ysgrifennydd ar y cyd o’r Pwyllgor 1922, y dylai Theresa May amlinellu ei chynlluniau i ymddiswyddo er mwyn sicrhau bod ei chynllun Brexit yn cael ei gymeradwyo.

“Yn amlwg, mae yna nifer o bobl sydd ddim am weld y Prif Weinidog yn cymryd rhan yn y cyfnod nesaf o drafodaethau, sef y berthynas fasnach rhyngom ni a’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol,” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

Ychwanegodd bod angen proses drefnus o ddod o hyd i Brif Weinidog newydd gyda chystadleuaeth lawn am yr arweinyddiaeth yn hytrach nag olynydd dros dro.