Mae dau weinidog yn y Cabinet wedi wfftio adroddiadau bod cynllwyn ar y gweill i ddisodli Theresa May.

Mae Michael Gove a David Lidington wedi’u cysylltu gydag adroddiadau eu bod yn barod i gymryd yr awenau gan y Prif Weinidog.

Ond mae’r ddau wedi pwysleisio eu cefnogaeth i Theresa May ar ôl i’r adroddiadau ddwysau bod cynllwyn ar y gweill i’w gorfodi i ymddiswyddo.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amgylchedd “nad dyma’r amser i newid capten y llong” tra bod David Lidington, dirprwy’r Prif Weinidog, wedi dweud nad oes awydd ganddo i gymryd yr awenau.

Mae’r Canghellor Philip Hammond wedi beirniadu Aelodau Seneddol sydd, yn ôl adroddiadau, yn cynllwynio i ddisodli’r Prif Weinidog.

Mae’n debyg bod Theresa May yn cwrdd â Brexitwyr blaenllaw yn Chequers prynhawn ma (dydd Sul, Mawrth 24) cyn cynnal cyfarfod o’r Cabinet fore dydd Llun.

Yn ôl y Sunday Times, mae 11 o weinidogion y Cabinet wedi dweud wrth y papur eu bod nhw eisiau i Theresa May gamu o’r neilltu a bod ei dirprwy David Lidington yn barod i gamu i’r adwy.

Ond mae’r Mail on Sunday yn adrodd bod gweinidogion am i’r Ysgrifennydd Amgylchedd Michael Gove gymryd yr awenau dros dro.

Ar ôl i filoedd o bobol orymdeithio i’r Senedd ddydd Sadwrn (Mawrth 23) yn galw am “Bleidlais y Bobol” dywedodd Philip Hammond bod cynnal ail refferendwm “yn rhywbeth sy’n haeddu cael ei ystyried ynghyd a chynigion eraill.”

Yn y cyfamser mae 5 miliwn o bobol bellach wedi arwyddo deiseb ar-lein yn galw ar y Llywodraeth i atal Brexit.