Parhau mae’r ymdrech i gludo 1,300 o deithwyr oddi ar long bleser aeth i drafferthion mewn gwyntoedd cryfion ger arfordir Norwy.

Mae cwpl o wledydd Prydain wedi disgrifio eu profiad “arswydus” o gael eu cludo oddi ar y llong mewn hofrennydd.

Mae’n debyg bod tua 200 o deithwyr o wledydd Prydain ar fwrdd y llong Viking Sky.

Roedd tua 230 o bobl wedi cael eu cludo oddi ar y llong ac 16 wedi’u cludo i’r ysbyty. Roedd tri ohonyn nhw yn dioddef o anafiadau difrifol.

Mae’r llong bellach wedi llwyddo i angori ym Mae Hustadvika ac mae disgwyl iddi gael ei halio i ddinas Molde fore heddiw (dydd Sul, Mawrth 24).

Dywedodd Derek ac Esther Browne, o Hampshire bod y llong yn “siglo” a bod pethau’n wael iawn cyn iddyn nhw gael eu hachub.

Roedd disgwyl i’r llong bleser gyrraedd Tilbury yn Essex ddydd Mawrth. Dywedodd llefarydd ar ran Viking Cruises eu bod wedi gwneud trefniadau i westeion aros mewn gwestai lleol a’u bod yn trefnu i’w holl westeion gael hedfan yn ôl i wledydd Prydain.