Mae’r dyfalu ynglŷn â dyfodol Theresa May wedi dwysau yn sgil adroddiadau bod gweinidogion y Cabinet yn cynllwynio i’w disodli.

Fe allai’r Prif Weinidog gael ei gorfodi i ymddiswyddo o fewn dyddiau, yn ôl un papur newydd, yn dilyn yr helynt am y modd mae hi wedi delio gyda Brexit.

Dywedodd cyn-ymgynghorydd polisi Theresa May, George Freeman, “mae e gyd drosodd i’r Prif Weinidog” gan drydar: “Mae hi wedi gwneud ei gorau. Ond ar draws y wlad mi fedrwch chi weld y dicter.

“Mae pawb yn teimlo eu bod nhw wedi eu bradychu,” gan ychwanegu bod “angen Prif Weinidog” a fydd yn gallu “ffurfio rhyw fath o glymblaid ar gyfer Cynllun B.”

Yn y cyfamser mae’r cyn-ysgrifennydd addysg Nicky Morgan, sydd o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, wedi dweud wrth y Sunday Telegraph y dylai gweinidogion y Cabinet ddweud wrth Theresa May “ei fod yn bryd iddi fynd”. Mae Steve Baker, sydd o blaid Brexit, hefyd wedi dweud y dylai unrhyw ymgeiswyr posib ar gyfer swydd y Prif Weinidog “weithredu nawr”.

Yn ôl y Sunday Times, mae 11 o weinidogion y Cabinet wedi dweud wrth y papur eu bod nhw eisiau i Theresa May gamu o’r neilltu a bod ei dirprwy David Lidington yn barod i gamu i’r adwy.

Ond mae’r Mail on Sunday yn adrodd bod gweinidogion am i’r Ysgrifennydd Amgylchedd Michael Gove gymryd yr awenau dros dro.

Ar ôl wythnos dymhestlog arall i Theresa May, mae disgwyl i Aelodau Seneddol gael trydydd cyfle i bleidleisio o blaid neu yn erbyn ei chynllun Brexit yr wythnos hon. Ond mae hi wedi rhybuddio, os na fydd digon o gefnogaeth i’w chynllun yn y dyddiau nesaf, fe fydd hi’n ceisio ymestyn y cyfnod cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd, tan ar ôl etholiadau’r Senedd Ewropeaidd.

Ddydd Sadwrn (Mawrth 23), roedd tua miliwn o bobol wedi ymuno a gorymdaith i’r Senedd yn Llundain i fynnu cynnal pleidlais y bobol ar Brexit.