Deiseb ar-lein sy’n annog llywodraeth Prydain i ddiddymu Erthygl 50 yw’r ddeiseb fwya’ poblogaidd erioed i gael ei chyflwyno i Bwyllgor Deisebau San Steffan – gyda 4,150,000 o bobol bellach wedi’i harwyddo.

Mae’r ddeiseb ‘Revoke Article 50’ newydd lwyddo i gyrraedd y brig, trwy ennill mwy o gefnogwyr na’r ddeiseb yn 2016 oedd yn galw am refferendwm ar fater gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi cadarnhau mai dyma’r ddeiseb i ddenu’r nifer mwyaf o bobol i’w harwyddo, gyda thros 2 filiwn o bobol yn gwneud hynny o fewn 24 awr.

Yn y cyfamser, mae deiseb o blaid Brexit, sy’n annog llywodraeth Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, wedi cael ei harwyddo gan 455,000 o bobol.