Mae Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi rhybuddio’r Prif Weinidog, Theresa May, bob ei swydd “yn y fantol” yn dilyn cyfarfod ym Mrwsel neithiwr (Nos Iau, Mawrth 22).

Fe gytunodd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd i roi estyniad iddi tan Mai 22 ar yr amod bod cytundeb Brexit yn cael ei gymeradwyo gan Aelodau Seneddol wythnos nesaf.

Ond mae ei phlaid yn colli amynedd gyda’i harweiniad, ac mae bygythiadau i’w disodli.

Yn ôl papur y Daily Telegraph, mae Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922, wedi cyfarfod Theresa May i ddweud wrthi fod y mwyafrif o aelodau’r blaid eisiau iddi ymddiswyddo.

Dywed y papur fod Syr Graham Brady eisoes wedi ymweld â hi yn Downing Street ar ddydd Llun (Mawrth 18).

Dywedodd Theresa May neithiwr ei bod hi’n bwriadu gwneud ymgais arall i gael cefnogaeth Aelodau Seneddol i’w chytundeb.

Os yw hi’n llwyddo, bydd yr Undeb Ewropeaidd yn cytuno i ymestyn Erthygl 50.

Ond os yw hi’n methu, mi fydd gan wledydd Prydain tan Ebrill 22 yn unig i lunio’r camau nesaf, gydag estyniad arall ar gael ar yr amod bod gwledydd Prydain yn cymryd rhan yn etholiadau Senedd Ewrop ym mis Mai.