Mae cwmni Thomas Cook, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cau 21 o’u canghennau yng ngwledydd Prydain, gan beryglu 320 o swyddi.

Yn ôl y cwmni teithiau tramor, mae’r bwriad yn rhan o’u cynlluniau i wneud y busnes yn fwy “cynaliadwy”, wrth i agweddau cwsmeriaid newid.

Dim ond un gangen yng Nghymru fydd yn cael ei heffeithio, sef yr un yn Llandudno.

Dywed Thomas Cook fod ymgynghoriad gyda staff ac undebau eisoes wedi cychwyn.