Fe fydd Theresa May yn gwneud ymdrech olaf i ddarbwyllo Aelodau Seneddol i gefnogi ei chynllun ymadael ar ôl i Frwsel gytuno i ohirio Brexit tan Mai 22 os yw hi’n gallu sicrhau cefnogaeth gan Dy’r Cyffredin erbyn wythnos nesaf.

Os ydy Aelodau Seneddol yn gwrthod Cytundeb Ymadael y Prif Weinidog am y trydydd tro, fe fydd gan wledydd Prydain hyd at Ebrill 12 i amlinellu eu camau nesaf. Fe fydd estyniad hirach ar yr amod bod gwledydd Prydain yn cymryd rhan yn etholiadau’r Senedd Ewropeaidd ym mis Mai.

Roedd aelodau’r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno ar yr estyniad yn dilyn trafodaethau ym Mrwsel a barodd am wyth awr, a hynny ar ol gwrthod apêl gan Theresa May i ohirio Brexit o Fawrth 29 hyd at Fehefin 30.

Fe fu Theresa May yn trafod gyda llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk yn ystod ac ar ol y cyfarfod ond nid yw’n glir a oedd hi wedi gallu cymryd rhan yn y trafodaethau.

Mewn cynhadledd newyddion ym Mrwsel wedi’r cyfarfod, dywedodd y Prif Weinidog bod y cynllun i ohirio Brexit yn rhoi dewis clir i Aelodau Seneddol. Ychwanegodd y byddai’n “gweithio’n galed i geisio ennyn cefnogaeth” i’r cynllun ar ol dychwelyd bore ma (dydd Gwener, Mawrth 22) ac y byddai’n “anghywir” gofyn i bobl y  Deyrnas Gyfunol i ethol Aelodau Seneddol Ewropeaidd tair blynedd ar ol pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Fe fydd yr etholiadau  Ewropeaidd yn cael eu cynnal rhwng Mai 23-26 ar draws Ewrop.