Mae bachgen 16 oed wnaeth herwgipio, treisio a lladd merch fach chwech oed, wedi cael ei garcharu am 27 mlynedd.

Cafwyd hyd i gorff Alesha MacPhail mewn coedwig ar Ynys Bute, Yr Alban, ar Orffennaf 2 y llynedd – oriau ar ôl i’w thad ddweud wrth yr awdurdodau ei bod hi ar goll.

Fe gafwyd Aaron Campbell yn euog yn Uchel Lys Glasgow y mis diwethaf..

Heddiw  (dydd Iau, Mawrth 21) mae barnwr wedi rhoi dedfryd oes iddo, gyda’r gorchymyn y dylai dreulio o leiaf 27 o flynyddoedd dan glo.

Yn ystod y gwrandawiad, roedd Aaron Campbell wedi cyfaddef i’r troseddau.