Mae Heddlu’r West Midlands yn ymchwilio wedi i bump mosg gael eu fandaleiddio yn y ddinas dros nos, ac wrth i luniau o’r llanast gael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Swyddogion gwrth-frawychiaeth sy’n edrych i mewn i’r mater, wedi i ffenestri pum canolfan addoli Mwslimaidd gael eu malu.

Mae cynghorwyr lleol Birmingham wedi condemnio’r digwyddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r cynghorydd Majid Mahood wedi rhannu fideo sy’n dangso tyllau mawr ym mhob un o ffenestri llawr gwaelod Canolfan Islamaidd Witton Road.

Yn ôl Heddlu’r West Midlands a’r adran wrth frawychiaeth, mae yna gysylltiad rhwng y pump ymosodiad, ond dydyn nhw ddim eto wedi dod o hyd i’r rheswm am yr ymosodiadau, na phwy sy’n gyfrifol.