Mae heddlu yn Swydd Efrog yn ymchwilio i ddigwyddiad yn Sheffield ddoe (pnawn Mawrth, Mawrth 19), wedi i siopwyr orfod cael eu hebrwng allan o archfarchnad, a dyn a dynes gael eu hanafu’n ddifrifol gan ymosodwr yn cario sgriwdreifar.

Fe gafodd swyddogion Heddlu De Swydd Efrog eu galw i siop fawr Tesco yn y ddinas, ac fe gafodd dyn ei arestio. Mae’r dyn hwnnw yn dal i fod yn y ddalfa.

Fe gafodd dyn a dynes eu cludo i’r ysbyty am driniaeth i anafiadau difrifol.

Fe fu plismyn ar y safle am beth amser neithiwr, ac fe gafodd siopwyr eraill eu hebrwng o’r siop. Mae’r gwaith o fynd trwy luniau teledu cylch cyfyng yn parhau.