Adroddiad yn dweud bod angen gwneud mwy i daclo cynnwys ar lein fel delweddau o hunanladdiadau a hunan niwed.

Mae Pwyllgor o Aelodau Seneddol yn galw am fwy o reoleiddio i amddiffyn plant o gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.

Daw hyn wrth iddyn nhw ddweud y dylai caethiwed i gyfryngau cymdeithasol gael ei weld fel afiechyd.

Mewn adroddiad newydd sy’n dangos effaith y cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl, mae Aelodau Seneddol yn dweud dylai platfformau fel Facebook, Twitter ac Instagram gael eu rheoleiddio gan Ofcom a’u gorfodi i ddilyn côd gweithredu.

Mae hi wedi cael ei chynnal gan grŵp trawsbleidiol ar Iechyd a Lles Meddwl y Cyfryngau Cymdeithasol a Phobl Ifanc sy’n honni bod angen gwneud mwy i daclo cynnwys ar-lein, sy’n cynnwys delweddau o hunanladdiadau a hunan niwed.

Daw hyn yn dilyn honiad tad Molly Russell, merch 14 oed a laddodd ei hun yn 2017, bod platfform Instagram wedi “helpu ei lladd.”

Maen nhw’n galw ar orfodi dyletswydd gan gwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol sydd â defnyddwyr 24 oed neu iau i ddilyn côd ymddygiad.

Dylai’r côd sefydlu rheolau ynglŷn â’r niwed mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ei wneud i bobol ifanc.

Mae’r rhain yn cynnwys hunan niwed, bwyta anhrefnus, hunan-barch, diffyg cwsg a gorddibyniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol – a dylai hyn fod ar waith erbyn diwedd fi Hydref eleni, meddai’r adroddiad.