Mae dyn wedi cael ei drywanu i farwolaeth yn ne-orllewin Llundain.
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Fulham am 12.27yb yn dilyn adroddiadau o ffrwgwd fore heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 16).
Cafwyd hyd i’r dyn wedi’i anafu ar y stryd lle cafodd Jill Dando, y gyflwynwraig deledu, ei llofruddio yn 1999.
Mae lle i gredu ei fod e’n 29 oed.
Cafodd e driniaeth ond fe fu farw yn y fan a’r lle.
Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn, ac mae’r ymchwiliad yn parhau.