Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi y bydd yn camu o’i swydd ym mis Mai.

Dywed Vince Cablr ei fod am roi cyfle i “genhedlaeth newydd” a bod digon o ymgeiswyr o fewn y blaid a fyddai’n gymwys i’w olynu.

Os na fydd etholiad cyffredinol cynnar, meddai, fe fydd y gystadleuaeth am olynydd yn dechrau ar ôl etholiadau’r awdurdodau lleol.

Mae Vince Cable, sy’n 75 oed, yn bwriadu parhau’n Aelod Seneddol dros Twickenham.

Roedd wedi dweud na fyddai cystadleuaeth am arweinyddiaeth y blaid nes bod “penderfyniad wedi cael ei wneud am Brexit neu fod y broses wedi ei hatal”.

Ond mewn datganiad dywed ei fod bellach yn “glir y bydd Brexit yn cael ei ohirio neu o bosib ei atal”.

Daw’r cyhoeddiad cyn cynhadledd wanwyn y blaid yng Nghaer Efrog.

Dyma fydd pedwaredd gystadleuaeth y blaid am arweinydd mewn pedair blynedd. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dioddef mewn etholiadau ers ffurfio llywodraeth glymblaid gyda’r Ceidwadwyr yn 2010.

Roedd Vince Cable wedi olynu Tim Farron fel arweinydd y blaid yn 2017, ac roedd Tim Farron wedi dod yn arweinydd ar ôl i Nick Clegg ymddiswyddo yn 2015.