Mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn ystyried caniatáu gohiriad Brexit, yn dilyn pleidlais ar y mater yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr (Dydd Iau, Mawrth 14.

Fe bleidleisiodd Aelodau Seneddol o blaid gohirio’r ymadawiad, gyda sawl aelod Ceidwadol yn pleidleisio yn erbyn y Prif Weinidog.

Ond, er mwyn newid dyddiad yr ymadawiad – Mawrth 29 yw’r diwrnod gadael ar hyn o bryd – rhaid i 27 aelod yr Undeb Ewropeaidd rhoi eu sêl bendith.

 chyfarfod mawr yn cael ei gynnal ym Mrwsel yr wythnos nesaf, mi fydd Llywydd y Cyngor Ewropeaidd yn cwrdd â sawl arweinydd dros y diwrnod nesaf i’w darbwyllo i gydsynio.

Teithio

Bydd Donald Tusk yn cwrdd â Phrif Weinidog yr Iseldiroedd, Mark Rutte, heddiw (dydd Gwener, Mawrth 15) ac arweinwyr yr Almaen a Ffrainc, Angela Merkel a Emmanuel Macron ddydd Llun (Mawrth 18).

Mi fydd wedyn yn teithio i Ddulyn ddydd Mawrth (Mawrth 19) er mwyn trafod â Taoiseach Iwerddon, Leo Varadkar.

“Byddaf yn apelio ar 27 aelod yr Undeb Ewropeaidd i ystyried gohiriad hir os ydy’r Deyrnas Unedig yn credu bod angen ailfeddwl eu strategaeth,” meddai Donald Tusk.

Y cynnig

Roedd y cynnig yn galw am estyniad dwy flynedd i broses trafod Erthygl 50, a chafodd ei basio â mwyafrif o 211 – 413 o blaid, 202 yn ei erbyn.

Gobaith Theresa May yw cynnal pleidlais arall ar ei chytundeb cyn Mawrth 20. Os bydd hynny’n llwyddo, mi fydd yn gofyn am ohiriad i Brexit hyd at Fehefin 30, er mwyn medru pasio deddfwriaeth.