Mae Brexit yn “rhwygo gwledydd ar wahân” meddai Donald Trump – ac mae Theresa May wedi gwrthod gwrando ar ei gyngor ar y mater.

Daw ei sylwadau wrth iddo gyfarfod â Taioseach Iwerddon, Leo Varadkar, yn y Tŷ Gwyn heddiw (dydd Iau, Mawrth 14), ddyddiau ar ôl i gytundeb Brexit Theresa May, ynghyd â’r cynnig i adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, gael eu gwrthod gan Aelodau Seneddol.

“Mae’n rhywbeth cymhleth iawn ar hyn o bryd,” meddai Donald Trump. “Mae’n rhwygo gwledydd ar wahân – yn wir, mae’n rhwygo sawl gwlad ar wahân ac mae hynny’n siom…

“Dw i’n synnu gyda pha mor wael mae pethau wedi mynd o safbwynt y trafodaethau, ond fe wnes i rannu fy syniadau gyda’r Prif Weinidog ar sut i drafod, ond fe wnaeth hi wrthod gwrando.

“Mae hynny’n iawn ond byddwn i wedi cynnal y trafodaethau mewn ffordd wahanol.”

Wrth roi ei farn ar ba un a ddylai Brexit gael ei ymestyn ai peidio, dywedodd fod “angen gwneud rhywbeth” cyn Mawrth 29, y dyddiad pryd mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.