Roedd gwraig 83 oed yn diodde’ o ‘dementia dros-dro” pan laddodd hi ei gŵr 85 oed.

Dyna y mae Llys y Goron Sheffield wedi’i glywed heddiw, wrth i Majorie Grayson fynd o flaen ei gwell, wedi’i chyhuddo o drywanu ei gŵr, Alan, i farwolaeth yn eu cartref yn ardal Handsworth ym mis Medi y llynedd.

Mae Majorie Grayson yn pledio’n euog i ddynladdiad ar sail y ffaith nad oedd yn ei iawn bwyll.

Yn wreiddiol, roedd hi’n wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth, cyn i’w phlê gael ei derbyn gan erlynwyr a oedd wedi cael gweld ei chofnodion meddygol.