Mae Aelodau Seneddol wedi gwrthod y syniad o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb – a hynny dan unrhyw amgylchiadau.

Fe bleidleisiodd Ty’r Cyffredin heno (nos Fercher, Mawrth 13) o 312 pleidlais i 308 o blaid gwelliant i gynnig y Llywodraeth sy’n datgan fod y Senedd yn “ymwrthod ag ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb Gytundeb Ynadael a heb Fframwaith ar gyfer ymwneud rhyngddyn nhw yn y dyfodol”.

Mewn ail bleidlais heno, fe wrthodwyd gwelliant arall oedd yn cynnig gohirio Brexit tan Fai 22, 2019. Roedd 374 yn erbyn, a 164 o blaid.