Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill, wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod yn Sir Armagh, Gogledd Iwerddon.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff y dyn yn ei 30au mewn adeilad yn ardal Acorn Hill yn Bessbrook fore heddiw (dydd Mercher, Mawrth 13).

Mae dau ddyn (41 a 43 oed) a thair menyw (22, 22 a 39 oed) wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i heddlu gael eu galw toc wedi 10.15yb.

Mae archwiliad post mortem eto i gael ei gynnal er mwyn penderfynu achos y farwolaeth.

Yn y cyfamser, mae pump o bobol yn cael eu cadw yn y ddalfa.