Mae dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o fod â chyllell yn ei feddiant yng ngŵyl rasio ceffylau Cheltenham.

Mae Heddlu Sir Gaerloyw wedi cadarnhau mewn datganiad iddyn nhw dderbyn adroddiadau fod yna ddyn â chyllell ar y maes rasio tua 10,30yb heddiw (dydd Mercher, Mawrth 13).

Mae lluniau o brif fynedfa’r parc am 10.45yb, yn dangos heddlu arfog yn hebrwng y dyn oddi yno, a hwnnw’n gwisgo jîns glas, siwmper las, côt law ac esgidiau gwynion.

Dyw hi ddim yn glir beth yw oed y gŵr sydd yn y ddalfa.

Heddiw yw ‘Dydd y Merched’ yn Cheltenham, gyda nifer o wynebau cyfarwydd o fyd actio, rhaglenni teledu, chwaraeon a ffasiwn, yn eu dillad gorau.