Mae’r farchnad stoc yn Llundain wedi gostwng 2% bore ma wrth i bryderon gynyddu am drafferthion ariannol gwlad Groeg.

Roedd y FTSE 100 100.9 o bwyntiau’n is heddiw sef 4,974.6 ar ôl dechrau siomedig.

Roedd y farchnad stoc yn yr Unol Daleithiau wedi plymio unwaith eto neithiwr, ar ôl i’r llywodraeth yn Athen gyhoeddi na fyddan nhw’n cyrraedd eu targedau cyllidol ar gyfer y flwyddyn.

Mae gweinidogion cyllid yn cwrdd yn Lwcsembwrg ar hyn o bryd i drafod yr argyfwng ym mharth yr ewro ond mae’n debyg bod yr ansicrwydd yn dal i gael effaith ar y marchnadoedd stoc.