Ymchwilwyr wedi dod o hyd i flwch du awyren Ethiopian Airlines

Diweddarwyd am  
Prif weithredwr cwmni Ethiopian Airlines yn safle'r ddamwain awyren

Prif weithredwr cwmni Ethiopian airlines ar safle’r ddamwain

Llun: Gwefan Ethiopian airlines

Yn ôl adroddiadau o Ethiopia, mae ymchwilwyr wedi dod o hyd i flwch du’r awyren Ethiopian Airlines fu mewn damwain fore ddoe (dydd Sul, Mawrth 10).

Aeth yr awyren i drafferthion chwe munud ar ôl gadael Addis Ababa ar ei ffordd i Nairobi, Kenya.

Bu farw’r 157 o bobol ar ei bwrdd – 149 o deithwyr ac wyth aelod o’r criw. Roedd saith o’r rhai fu farw yn ddinasyddion Prydeinig.

Y gred yw bod y rhan fwyaf o’r teithwyr ar eu ffordd i gynhadledd amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig.

Mae Ethiopia wedi datgan diwrnod o alaru.

Diogelwch

Yn y cyfamser mae’r gwneuthurwr awyrennau o’r Unol Daleithiau, Boeing, dan bwysau i sicrhau diogelwch eu hawyrennau 737 Max 8 yn dilyn y ddamwain.

Mae cwmnïau awyrennau yn Tsieina wedi cael gorchymyn gan y corff sy’n goruchwylio’r diwydiant hedfan i beidio defnyddio awyrennau Max 8. Ac mae cwmni yn y Caribî, Cayman Airways, hefyd wedi penderfynu peidio defnyddio dwy o’u hawyrennau newydd.

Yn yr Unol Daleithiau mae’r Weinyddiaeth Hedfan Ffederal (FAA) wedi dweud ei bod yn “monitro’r datblygiadau yn ofalus” yn dilyn y digwyddiad.

Daw’r ddamwain fisoedd yn unig ar ôl digwyddiad arall yn ymwneud a’r un math o awyren pan gafodd 189 o bobol eu lladd.

Dywedodd prif weithredwr Boeing, Dennis Muilenburg, ddydd Sul bod y cwmni yn darparu “cymorth technegol” i lywodraeth Ethiopia.

Mae Ethiopian Airlines hefyd wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio gweddill eu hawyrennau Max 8 am y tro, er nad yw achos y ddamwain yn hysbys hyd yn hyn.

Dywedodd Tui Airways, y cwmni hedfan cyntaf yng ngwledydd Prydain i gael Boeing 737 Max 8 y llynedd, na fyddan nhw’n rhoi’r gorau i’w defnyddio ond eu bod mewn cysylltiad rheolaidd a’r gwneuthurwr.

“Nid ydym wedi cael unrhyw gyfarwyddyd na allwn ni ddefnyddio ein 737 Max mewn ffordd ddiogel,” meddai llefarydd.

Ac mae cwmni hedfan Norwegian, sydd ag 18 o awyrennau Boeing 737 Max 8 yn ei fflyd, wedi dweud y bydd yr awyrennau yn hedfan yn ôl yr arfer.

Cydweithio

Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) yn y Deyrnas Unedig: “Mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad trasig yn Ethiopia ddoe.

“Ar hyn o bryd mae pum awyren Boeing 737 Max 8wedi’u cofrestru ac yn weithredol yn y Deyrnas Gyfunol. Mae disgwyl i chweched awyren fod yn weithredol yn ddiweddarach yr wythnos hon.”

Ychwanegodd mai’r Weinyddiaeth Hedfan Ffederal (FAA) yn yr Unol Daleithiau sy’n gyfrifol am sicrhau bod pob Boeing 737 Max 8 yn ddiogel a’r Asiantaeth Diogelwch hedfan Ewropeaidd (EASA) sy’n gyfrifol am wneud hynny ar draws gwledydd yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys gwledydd Prydain.

“Mae’r CAA yn cydweithio’n agos iawn gyda’r EASA wrth i ffeithiau’r digwyddiad yma gael eu cadarnhau.”

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Anrhydeddau Gorsedd y Beirdd 2019