Mae’r gwneuthurwr awyrennau o’r Unol Daleithiau, Boeing, dan bwysau i sicrhau diogelwch eu hawyrennau 737 Max 8 yn dilyn damwain awyren Ethiopian Airlines ddoe (dydd Sul, Mawrth 10).

Cafodd 157 o bobol eu lladd, gan gynnwys saith o ddinasyddion Prydeinig. Mae Ethiopia wedi datgan diwrnod o alaru.

Mae cwmnïau awyrennau yn Tsieina wedi cael gorchymyn gan y corff sy’n goruchwylio’r diwydiant hedfan i beidio defnyddio awyrennau Max 8. Mae cwmni yn y Caribî, Cayman Airways, hefyd wedi penderfynu peidio defnyddio dwy o’u hawyrennau newydd.

Yn yr Unol Daleithiau mae’r Weinyddiaeth Hedfan Ffederal (FAA) wedi dweud ei bod yn “monitro’r datblygiadau yn ofalus” yn dilyn y digwyddiad.

Daw’r ddamwain fisoedd yn unig ar ôl digwyddiad arall yn ymwneud a’r un math o awyren pan gafodd 189 o bobol eu lladd.

Dywedodd prif weithredwr Boeing, Dennis Muilenburg, ddydd Sul bod y cwmni yn darparu “cymorth technegol” i lywodraeth Ethiopia.

Mae Ethiopian Airlines hefyd wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio gweddill eu hawyrennau Max 8 am y tro, er nad yw achos y ddamwain yn hysbys hyd yn hyn.

Dywed Ethiopian Airlines eu bod wedi hysbysu teuluoedd y rhai oedd ar yr awyren. Y gred yw bod y rhan fwyaf o’r teithwyr ar eu ffordd i gynhadledd amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig.

Aeth yr awyren i drafferthion chwe munud ar ol gadael Addis Ababa ddoe ar ei ffordd i Nairobi, Kenya.