Mae John McDonnell, canghellor yr wrthblaid, yn dweud ei fod yn paratoi cyllideb rhag ofn y bydd etholiad cyffredinol brys yn cael ei gynnal.

Mae’n rhagweld y byddai ei blaid yn ennill o fwyafrif sylweddol pe bai hynny’n digwydd yn sgil trafodaethau Brexit.

“Mae angen dau neu dri phwynt arall i fynd â ni i’r llywodraeth a dyna gawn ni wrth i ni fynd i mewn i’r ymgyrch,” meddai wrth gynulleidfa Llafur yr Alban yn Dundee, wrth ymateb i’r polau piniwn diweddaraf, sy’n rhoi’r Ceidwadwyr ar y blaen o hyd.

Mae’n rhybuddio bod y llywodraeth yn “ansefydlog ac felly yn hollol anwadal”, a’i fod e a Jeremy Corbyn, yr arweinydd, yn paratoi i ffurfio llywodraeth.

‘Barod i fynd’

“Rhag ofn fod etholiad, rydym yn paratoi ar gyfer etholiad, ac mae’r holl gynlluniau ymgyrchu yn  barod,” meddai John McDonnell.

“Rydyn ni wedi bod yn profi’r negeseuon, mae’r grid yn barod i fynd.

“Y grid yw pwy sy’n mynd i ble yn nhermau’r cabinet cysgodol ar hyd a lled y wlad, lle bydd ralïau Jeremy, fel y gallwn ni fynd i mewn i feddylfryd etholiad os bydd etholiad cyffredinol.”

O ran ei gyllideb, mae John McDonnell yn dweud bod trafodaethau ar y gweill.