Mae Theresa May yn wynebu colli pleidlais arall ar ei chynllun Brexit ddydd Mawrth (Mawrth 12) oni bai ei bod hi’n datrys sefyllfa ffiniau Iwerddon, yn ôl aelodau seneddol Ceidwadol a’r DUP.

Ymhlith y rhai sy’n credu bod colli’r bleidlais o dan y fath amgylchiadau yn “anochel” mae Steve Baker, is-gadeirydd Grŵp Ymchwil Ewropeaidd y Ceidwadwyr a Nigel Dodds, dirprwy arweinydd y DUP.

Mae adroddiadau bod aelodau’r Cabinet wedi rhybuddio prif weinidog Prydain mai’r unig ffordd y bydd sêl bendith i’w chynllun yw pe bai hi’n addo camu o’r neilltu erbyn mis Mehefin.

Daw’r adroddiadau hynny yn dilyn ffrae rhwng yr Ysgrifennydd Brexit Steve Barclay a Michael Barnier, prif drafodwr Brexit yr Undeb Ewropeaidd, lle cafodd yr Undeb Ewropeaidd eu cyhuddo gan Steve Barclay o geisio “dychwelyd at hen ddadleuon”.

Erthygl yn y Sunday Telegraph

Mewn erthygl ar y cyd yn y Sunday Telegraph, mae Steve Baker a Nigel Dodds yn disgrifio sefyllfa Brexit fel un “llwm”.

“Bydd Cytundeb Ymadael heb ei newid yn colli’n drwm o gyfran sylweddol o Geidwadwyr a’r DUP os caiff ei gyflwyno unwaith eto i Dŷ’r Cyffredin.

“Os yw hanner y Ceidwadwyr, ynghyd â’r DUP, yn pleidleisio yn erbyn y cytundeb, byddai disgwyl mwyafrif o dri ffigwr.”

Pe bai hi’n colli eto, mae disgwyl i Theresa May roi’r cyfle i aelodau seneddol bleidleisio yn erbyn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, a cheisio ymestyn Erthygl 50.

Byddai hynny’n golygu na fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Fawrth 29.

Ond byddai hynny’n achosi niwed sylweddol i wleidyddiaeth gwledydd Prydain, meddai Steve Baker a Nigel Dodds.