Mae cwmnïau technoleg yn “methu” wrth reoleiddio eu hunain, yn ôl un o bwyllgorau Tŷ’r Arglwyddi.

Mae’r Pwyllgor Cyfathrebu yn credu dylai corff newydd gael ei sefydlu er mwyn gwella’r gwaith o reoleiddio, ac er mwyn diogelu’r cyhoedd ar-lein.

Ac mae eu casgliadau wedi eu cyhoeddi ar ffurf adroddiad newydd – ‘Rheoleiddio mewn Byd Digidol’.  

Yn ôl yr adroddiad, dylai bod cyfrifoldeb ar gwmnïau i ofalu am bobol sydd ar-lein, a dylai corff rheoleiddio Ofcom gyfrannu at y gwaith hynny.

“Ffordd newydd”

“Mae’n amlwg bod platfformau ar-lein yn methu yn y gwaith o reoleiddio eu hunain,” meddai.

“Ac mae’r fframwaith rheoleiddio presennol wedi dyddio. Does dim modd anwybyddu’r dystiolaeth yr ydym wedi clywed.

“Mae’r dystiolaeth yn atgyfnerthu’r ddadl bod angen mynd i’r afael â rheoleiddio mewn ffordd newydd.”