Fe fydd Theresa May yn apelio ar arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd (UE) heddiw (dydd Gwener, Mawrth 8) i’w helpu i berswadio Aelodau Seneddol i gefnogi ei chynllun Brexit.

Ar ôl methiant y trafodaethau ym Mrwsel yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y Prif Weinidog y bydd y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan yr UE yn y dyddiau nesaf yn cael “effaith sylweddol” ar dynged y cynllun.

Fe fydd ASau yn pleidleisio ddydd Mawrth i benderfynu os ydyn nhw am gefnogi’r cynllun Brexit wrth i Theresa May geisio cael consesiynau pellach i’r “backstop” yng Ngogledd Iwerddon er mwyn osgoi cael ei threchu yn Nhŷ’r Cyffredin unwaith eto.

Daw apel Theresa May i’r UE wrth i’r gweinidog yn y Cabinet Liam Fox rybuddio bod posibilrwydd na fydd Brexit yn digwydd os nad yw ASau yn cefnogi’r cytundeb.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog ddefnyddio araith yn Grimsby heddiw i ddweud bod y Llywodraeth yn parhau’n benderfynol o sicrhau newidiadau i’r backstop, ac y bydd hi’n annog yr UE i gytuno i hynny.

Y bwriad yw ceisio osgoi ffin galed gydag Iwerddon os nad oes trefniadau masnach eraill mewn lle.

Dywedodd llefarydd Brexit Llafur, Syr Keir Starmer ei bod yn “dod yn glir na fydd Theresa May yn gallu sicrhau’r newidiadau mae hi wedi addo i’w chytundeb Brexit.”