Mae Amanda Knox wedi cerdded yn rhydd o lys yn yr Eidal  ar ôl ei chael yn ddi-euog o lofruddio’r fyfyrwraig o Brydain, Meredith Kercher neithiwr.

Mae’r ferch 24 oed o’r Unol Daleithiau wedi treulio pedair blynedd dan glo am lofruddio Meredith Kercher, ond roedd Knox wedi mynnu nad oedd hi wedi chwarae unrhyw ran yn ei marwolaeth.

Daeth ei chyfnod yn y carchar i ben ar ôl i’r rheithgor yn ei hachos apel ei chael yn ddi-euog o drywannu Meredith Kercher. Fe benderfynodd y rheithgor nad oedd y dystiolaeth yn ei herbyn yn ddibynadwy.

Cafodd Knox, o Seattle, ei charcharu am 26 mlynedd ym mis Rhagfyr 2009, ynghyd â’i chyn-gariad Raffaele Sollecito o’r Eidal, gafodd ei garcharu am 25 mlynedd.

Roedd Sollecito hefyd wedi ei gael yn ddi-euog neithiwr ar ôl ei achos apel.

Datganiadau emosiynol

Daeth y dyfarniadau ar ôl i’r ddau wneud datganiadau emosiynol yn y llys yn Perugia ddoe.

“Nes i ddim lladd, nes i ddim treisio, nes i ddim dwyn. Doeddwn i ddim yno ar y pryd,” meddai Knox.

Roedd corff hanner-noeth Meredith Kercher, 21, o Coulsdon yn Surrey wedi ei ddarganfod ar 2 Tachwedd, 2007 yn y tŷ roedd hi’n ei rannu gyda Knox tra roedd hi’n astudio dramor am flwyddyn.

Cafodd y gwerthwr cyffuriau Rudy Guede, 24 o’r Traeth Ifori ei garcharu am lofruddiaeth a thrais rhywiol mewn achos ar wahan. Er ei fod o hefyd yn mynnu ei fod yn ddi-euog, cafodd ei apel ei wrthod.