Mae tad ac ewythr James Bulger wedi colli her gyfreithiol yn yr Uchel Lys yn dilyn cais i gyhoeddi gwybodaeth am Jon Venables, un o’r bechgyn oedd wedi llofruddio’r plentyn.

Cafodd gorchymyn ei wneud yn 2001 er mwyn caniatáu i Jon Venables aros yn anhysbys ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar ar ôl cael dedfryd oes am gipio, arteithio, a lladd James Bulger oedd yn ddwy oed ar y pryd.

Fe ddadleuodd cyfreithwyr Ralph a Jimmy Bulger bod llawer o wybodaeth benodol ynglŷn â’r llofrudd eisoes wedi’i gyhoedd ar-lein.

Cafodd cais ei wneud i Syr Andrew McFarlane, Llywydd yr Adran Deuluol, yn galw am newid i’r gorchymyn fel nad yw’r wybodaeth yn parhau’n gyfrinachol.

Ond mewn gwrandawiad heddiw (Dydd Llun, Mawrth 4), fe wrthododd y barnwr i newid y gorchymyn er mwyn diogelu Jon Venables “am fod risg y gallai gael ei niweidio neu ei ladd”.

Roedd y llys wedi clywed ynghynt bod y wybodaeth yn cynnwys manylion am enw newydd Jon Venables a manylion eraill hyd at 2017.

Mae unrhyw un sy’n rhannu gwybodaeth o’r fath o dan y gorchymyn yn gallu wynebu cael eu herlyn am ddirmyg llys.

Cafodd James Bulger ei ladd gan Jon Venables a Robert Thompson – dau fachgen 10 oed – ar ôl iddyn nhw ei gipio o ganolfan siopa yn Bootle ar Lannau Mersi yn 1993.

Mae’r ddau yn parhau i fyw gydag enwau newydd ond cafodd y gorchymyn yn ymwneud a Jon Venables ei ddiwygio ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog o droseddau pellach yn 2010 ac ym mis Chwefror y llynedd.

Cafodd ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis y llynedd ar ol cyfaddef chwilio am ddelweddau anweddus o blant ar-lein.