Mae cronfa gwerth £1.6bn gan Lywodraeth Prydain i adnewyddu trefi difreintiedig yn Lloegr wedi cael ei beirniadu gan Aelodau Seneddol Llafur, sy’n cyhuddo Theresa May o geisio ennill cefnogaeth i’w chytundeb Brexit.

Yn ôl y canghellor cysgodol, John McDonnell, mae’r arian – a fydd yn cael ei wario dros gyfnod o chwe blynedd mewn rhanbarthau yn Lloegr – yn ymgais i “lwgrwobrwyo”.

Ond mae’r Ysgrifennydd Cymunedau, James Brokenshire wedi wfftio’r honiad hwnnw, gan ddweud y bydd y gronfa yn un “drawsnewidiol”.

Y gronfa

Bydd arian y gronfa yn cael ei rannu rhwng gwahanol ranbarthau yn Lloegr, gyda £281m yn mynd i’r gogledd orllewin; £212m i orllewin y canolbarth; £197m i Swydd Efrog a Humber; £110m i ddwyrain y canolbarth a £105m i’r gogledd-ddwyrain.

“Fe wnaeth cymunedau ledled y wlad bleidleisio o blaid Brexit fel mynegiant o’u hawydd i weld newid,” meddai Theresa May, wrth gyhoeddi’r gronfa.

“Mae angen i’r newid hwnnw fod yn un am y gorau, gyda mwy o gyfleoedd a mwy o reoli.

“Mae gan y trefi hyn dreftadaeth wych, tipyn o botensial a, gyda’r help cywir, ddyfodol disglair o’u blaenau.”

Beirniadaeth

Yn ôl yr Aelod Seneddol Llafur tros Ganol Stoke, Gareth Snell, mae’r swm ar gyfer gorllewin y canolbarth dros gyfnod o bedair blynedd yn “llai na’r cyfanswm o doriadau mae Cyngor Dinas Soke-on-Trent wedi gorfod wynebu dros yr un cyfnod”.

Mae Luke Pollard, sy’n cynrychioli Sutton a Devonport, wedi disgrifio’r £35m ar gyfer trefi yn y de orllewin fel “llanast pathetig”, gan gyfeirio at y ffaith bod y swm tua’r un faint a gafodd ei gynnig yn rhan o setliad gydag Eurotunnel ynghylch “shambyls” y fferïau Brexit.

“Dim ceiniog” i Gymru

Dywedodd Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant, fod yr arian, sydd ar gyfer rhanbarthau Lloegr yn unig, yn “llawn twyll, nawddoglyd a phathetig”, a’i fod yn ymgais i “lonyddu anghenfil Brexit”  gan ychwanegu bod “dim ceiniog i Gymru.”

Nid yw’n glir ar hyn o bryd faint o arian fydd ar gaeli Gymru, os o gwbl.