Mae dyn yn ei 30au wedi cael ei arestio mewn perthynas â dau achos o drywanu yn Llundain.

Mae llanc 16 oed a dyn 37 oed yn yr ysbyty, lle mae eu bywydau mewn perygl.

Cafodd y dyn ei arestio yn ardal Camden, lle cafodd y llanc ei drywanu am 11.36 fore heddiw (dydd Sul, Mawrth 3).

Cafodd ei arestio wedyn ar amheuaeth o geisio llofruddio’r dyn 37 oed yn Soho toc ar ôl 6 o’r gloch fore heddiw.

Dywedodd wrth yr heddlu ei fod e wedi cymryd cyffuriau, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty.

Mae dynes yn ei 40au hefyd yn y ddalfa.