Mae dynes 40 oed wedi cael ei chyhuddo o lofruddio babi tri mis oed yn Croydon.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo am 11.57 fore ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 2), yn dilyn adroddiadau nad oedd babi bach yn anadlu.

Cafodd y ferch fach ei chludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae teulu’r ferch fach wedi cael gwybod, ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.

Mae’r ddynes sydd wedi’i harestio yn cael ei holi yn y ddalfa, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.

Mae’r heddlu’n dweud bod y ddynes a’r babi yn adnabod ei gilydd.