Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o drywanu dyn yn ardal Soho yn Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 6 o’r gloch fore heddiw (dydd Sul, Mawrth 3), yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu.

Cafodd y dyn, sydd yn ei 30au, ei gludo i’r ysbyty, lle mae e mewn cyflwr difrifol a’i fywyd mewn perygl.

Cafodd dynes yn ei 40au ei harestio a’i chludo i’r ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.