Mae dyn wedi cael ei arestio yn Albania ar amheuaeth o lofruddio adeiladwr yn Llundain fis Ebrill y llynedd.

Cafodd John Woodward ei ladd ar do adeilad masnachol yn Hatton Garden yn y ddinas.

Roedd lle i gredu’n wreiddiol ei fod e wedi cwympo o’r adeilad uchel, ond daeth ymchwiliad post-mortem i’r casgliad iddo gael ei daro yn ei ben.

Mae’r awdurdodau’n dweud bod dyn 22 oed wedi’i arestio yn dilyn cyhoeddi gwarant rhyngwladol i’w estraddodi.

Mae’n cael ei holi yn y ddalfa wrth i’r ymchwiliad barhau.

Cafodd dyn 24 oed ei arestio’r llynedd ar amheuaeth o lofruddio a’i ryddhau, ond fe gafodd ei arestio eto ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr. Dydy e ddim yn wynebu unrhyw gyhuddiadau bellach.