Mae llysgennad yr Unol Daleithiau yng ngwledydd Prydain yn dweud bod y rhybudd am fwyd o safon isel yn cyrraedd gwledydd Prydain fel rhan o gytundeb masnach ar ôl Brexit yn “ymfflamychol a chamarweiniol”.

Mae’r rhybudd yn sôn am gyw iâr wedi’i drochi mewn clorin a chig eidion llawn hormonau ar y silffoedd.

Ond mae Woody Johnson yn dweud mai “myth” yw’r adroddiadau gan “bobol sydd â’u hagenda eu hunain”, ac y byddai cytundeb masnach yn cynnig “cyfle gwych” i’r Unol Daleithiau a gwledydd Prydain.

“Ond mae’r cyhoedd yng ngwledydd Prydain wedi cael ei arwain i gredu fel arall,” meddai mewn erthygl yn y Daily Telegraph.

“Rydych chi wedi cael dewis ffals: naill ai i gadw at gyfarwyddyd yr Undeb Ewropeaidd neu ddarganfod eich hunain yn gorlifo â bwyd Americanaidd o’r safon isaf,” meddai.

“Mae termau ymfflamychol a chamarweiniol fel ‘cyw iâr clorin’ a ‘chig eidion llawn hormonau’ yn cael eu defnyddio er mwyn rhoi ffermio Americanaidd yn y goleuni gwaethaf posib.

“Mae’n bryd i’r mythau gael sylw am yr hyn ydyn nhw go iawn: ymgyrch i bardduo gan bobol sydd â’u hagenda eu hunain.”

‘Clorin cyw iâr’

Mae’n dweud bod y broses ar gyfer cyw iâr sydd wedi’i olchi mewn clorin yr un broses â honno sy’n cael ei defnyddio gan ffermwyr i drin ffrwythau a llysiau.

Mae’n mynnu mai dyma’r ffordd orau o ymdrin â bacteria fel salmonela a campylobacter, a bod ffermwyr gwartheg “dan y lach yn annheg ers degawdau” er bod tystiolaeth yn America o lwyddiant y dull hwn o ffermio.

“Dydy’r darlun sy’n cael ei baentio i chi o amaeth Americanaidd ddim yn debyg o gwbl i’r realiti ar lawr gwlad,” meddai.

“Y ffaith yw fod gan ffermwyr yn America yr un blaenoriaethau â ffermwyr Prydain.

“Maen nhw’n trosglwyddo eu ffermydd o un genhedlaeth i’r llall. Maen nhw’n gofalu’n fawr am eu tir a’u da byw, ac yn ymfalchïo’n fawr yn y bwyd y maen nhw’n ei gynhyrchu.”

Pryderon yr NFU

Mynegodd yr NFU bryderon am ddiogelwch bwyd a lles anifeiliaid ddydd Gwener (Mawrth 1).

Ond mae Downing Street yn mynnu na fydd safon bwyd yn gostwng yn sgil Brexit.