Mae merch 17 oed wedi cael ei thrywanu i farwolaeth yn Romford ger Llundain.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal St Neot’s Road am 9.25 neithiwr (nos Wener, Mawrth 1).
Daethon nhw o hyd i’r ferch, oedd wedi cael ei hanafu’n ddifrifol, a bu farw awr yn ddiweddarach.
Mae ei theulu wedi cael gwybod, ac mae ymchwiliad ar y gweill.
Does neb wedi cael ei arestio mewn perthynas â’r digwyddiad, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.