Gallai trigolion pentref yn ne sir Dyfnaint gael eu rhybuddio am lifogydd gan glychau’r eglwys leol, diolch i arian grant newydd.

Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath, ac mae wedi’i sefydlu yn Eglwys San Paul ym mhentref Starcross ger Torquay.

Mae’r eglwys wedi derbyn £10,000 gan Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer y prosiect.

Ond fydd y clychau ddim yn cael eu defnyddio oni bai bod ffyrdd electronig o hysbysu pobol wedi methu.

Roedd disgwyl i glychau eglwysi gael eu defnyddio adeg yr Ail Ryfel Byd i rybuddio am gyrchoedd bomio gan yr Almaenwyr.