Mae dyn 19 oed wedi cael ei drywanu i farwolaeth yng ngogledd Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Wood Green nos Wener, yn dilyn adroddiadau o ymosodiad gan griw ar gefn beiciau modur.

Cafwyd hyd i’r dyn 19 oed a dyn arall, 20 oed, wedi’u hanafu.

Bu farw’r dyn 19 oed yn fuan wedyn yn yr ysbyty, ac fe gafodd y dyn 20 oed driniaeth am anaf o ganlyniad i saethu.

Mae lle i gredu bod gan y criw ar gefn beiciau modur o leiaf un dryll, cyllyll a chleddyf samurai.

Mae Heddlu Llundain yn cynnal ymchwiliad, ac yn apelio am dystion i’r digwyddiad.