Mae John McDonnell wedi awgrymu bod y Blaid Lafur yn agosáu at gefnogi ail refferendwm ar Brexit.

Dywedodd Canghellor yr wrthblaid yn San Steffan bod Llafur yn cadw pob opsiwn ar y bwrdd a’u bod yn “symud tuag at” ail refferendwm.

Mae’r Blaid Lafur yn rhanedig iawn ar fater gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae naw Aelod Seneddol wedi gadael y blaid oherwydd yr anghydweld.

Safbwynt Llafur yw cefnogi Pleidlais y Bobl – sef ail refferendwm Brexit – os nad yw Theresa May yn gallu gwireddu ei chytundeb Brexit, ac os nad oes etholiad cyffredin.

Dywedodd John McDonnell wrth bapur newydd The Evening Standard: “O ran Pleidlais y Bobl, rydan ni wedi ei gadw ar y bwrdd ac rydan ni’n symud tuag at hynny.”