Mae’r Post Brenhinol wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu cynyddu’r pris am stampiau o’r mis nesaf ymlaen.

Gan gychwyn ar Fawrth 25, fe fydd y pris am stamp dosbarth cyntaf yn cynyddu 3c i 70c a stamp ail ddosbarth hefyd yn cynyddu 3c i 61c.

Yn ôl y Post Brenhinol, maen nhw wedi adolygu’r newidiadau yn “ofalus iawn” fel nad yw’n effeithio ar gwsmeriaid.

Mae pris stampiau yng ngwledydd Prydain gyda’r gorau yn Ewrop, meddai’r cwmni ymhellach.

Mae ymchwil ganddyn nhw yn dangos bod stamp dosbarth cyntaf yn Ewrop ar gyfartaledd yn 99c, tra bo stamp ail ddosbarth yn costio 77c.