Dylai oed gadael ysgol gael ei ostwng i 14, yn ôl cyn bennaeth y corff arolygu safonau addysg Ofsted.

Mewn cyfweliad â’r Times, dywedodd Sir Chris Woodhead y byddai newid o’r fath yn galluogi plant llai academaidd i ddysgu crefft.

Dywedodd wrth y papur newydd y “os yw plentyn 14 oed wedi meistroli llythrennedd a rhifedd sylfaenol, fe fyddwn i’n hapus iawn i’r plentyn hwnnw adael ysgol er mwyn dechrau ar brentisiaeth ac hyfforddiant addysg bellach ac hyfforddiant ymarferol, yn ymwneud â chrefft, sy’n arwain at swydd.”

Yn ôl Sir Chris Woodhead, mae’r system addysg yn “gofyn am drwbwl” wrth wneud i bobol ifanc astudio Saesneg a Mathemateg hyd at 18 oed, ac y byddai’n gamgymeriad i wneud addysg galwedigaelthol yn “lêd-academiadd”.

Roedd yn cefnogi cynlluniau’r llywodraeth i ddefnyddio ffoneg synthetig er mwyn hyrwyddo darllen mewn ysgolion cynradd, gan ddweud y dylai 95% o blant gyrraedd y targed llythrennedd erbyn 11 oed.

Ond yn ôl Sir Chris, sydd nawr yn gadeirydd ar gwmni ysgolion di-elw Cognita, mae angen beirniadu galwad David Cameron am ysgolion annibynnol i roi nawdd i academiau, gan alw’r syniad yn “egwyrddorol anghywir”.

“Y mwyaf o adnoddau gwyddoniaeth neu feysydd chwarae sydd yn cael eu defnyddio gan blant nad ydynt yn talu ffioedd, y lleia y maen nhw ar gael i rieni plant sy’n talu’r ffioedd,” meddai.

Roedd Sir Christ Woodhead yn brif arolygydd gydag Ofsted rhwng 1994 a 2000.