Mae’r Aelod Seneddol Ian Austin yn dweud ei fod am adael y Blaid Lafur – ond nid yw am ymuno gyda’r Grŵp Annibynnol newydd.

Yr aelod tros Ogledd Dudley yw’r nawfed Aelod Seneddol i adael y Blaid Lafur yr wythnos hon yn sgil anfodlonrwydd ynglŷn â safbwynt yr arweinydd, Jeremy Corbyn, ar Brexit a gwrth-semitiaeth.

Mae’r Blaid Geidwadol hefyd yn wynebu trafferthion, ar ôl i dri Aelod Seneddol groesi’r llawr i ymuno a’r Grŵp Annibynnol ddydd Mercher (Chwefror 20).

Beirniadu Jeremy Corbyn

Yn ôl Ian Austin mewn adroddiad ym mhapur y Express and Star, mae wedi ei “arswydo” gan y “sarhad a’r gofid” y mae’r Blaid Lafur a’r arweinydd presennol wedi eu hachosi i’r gymuned Iddewig.

Ychwanega fod Jeremy Corbyn wedi trawsnewid y blaid o fod yn un “brif ffrwd” i fod yn “blaid wahanol iawn sydd ag egwyddorion gwahanol iawn”.

“Mae’r chwith bellach yn rheoli’r blaid,” meddai Ian Austin. “Maen nhw’n mynd i gael gwared ar nifer o Aelodau Seneddol prif ffrwd a dw i ddim yn gallu gweld sut y gall hi ddychwelyd at fod y blaid brif ffrwd a enillodd etholiadau ac a newidiodd y wlad er gwell.”